Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Gorffennaf 2021
Amser:
10.30 -
13.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12399
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Howard Davies, Llywodraeth Cymru Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Bernadette Payne, Llywodraeth Cymru Olwen Spiller, Llywodraeth Cymru Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru Jo Stevens, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Chloe Corbyn (Ymchwilydd) Andrew Minnis (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith.
2 Cylch gorchwyl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
2.1 Nododd y Pwyllgor y papur ar ei gylch gorchwyl.
3 Papurau i'w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a seilwaith
3.2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 6 o'r cyfarfod heddiw
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
.
5 Trafod y ffyrdd y bydd y Pwyllgor yn gweithio ac yn cynllunio gwaith
5.1 Ystyriodd a thrafododd y Pwyllgor ei bapur ar fusnes cynnar a chynllunio strategol.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor i lansio ymgynghoriad dros doriad yr haf i gael barn am ei flaenoriaethau.
6 Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd
6.1 Cafodd yr Aelodau friff cyfreithiol a thrafodwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch Bil yr Amgylchedd.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd: craffu ar waith y Gweinidog Newid Hinsawdd
7.1 Bu’r Aelodau yn holi y Gweinidog Newid Hinsawdd ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 9 o’r cyfarfod heddiw
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9 Trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 7 a thrafod y camau nesaf o ran Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 7 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i gael rhagor o wybodaeth am rai o'r materion a godwyd yn ystod y sesiwn.